Gwaith yn dechrau ar llwybr teithio llesol

Wednesday, 27 August 2025 16:53

By Ystafell Newyddion MônFM

Geograph (Eric Jones)

Bydd gwaith yn dechrau ar lwybr teithio llesol newydd rhwng Malltraeth a Niwbwrch ym mis Medi.

Yn ôl y cyngor sir, bydd yn ffurfio cam nesaf o ddatblygu coridor gwyrdd di-draffig yn ne Ynys Môn.

Bydd y llwybr yn cysylltu'r Cob ym Malltraeth â Niwbwrch, gan greu cysylltiad diogel a hygyrch i gerddwyr a beicwyr.

Mae'r proseict yn rhan o cynlluniau ehangach gan y cyngor i wella llwybr Lôn Las Cefni ac i ddatblygu llwybr gwrydd 'Glasffordd Môn' sy'n fuddiol i gymunedau lleol, tirweddau ac ecosystemau.

Mae'r llwybr wedi'i ariannu drwy gronfa teithio llesol gan Llywodraeth Cymru, yn cael ei reoli gan Drafnidiaeth Cymru, ac mae wedi'i gynllunio i gydymffurfio â safonau Deddf Teithio Llesol Cymru, gan adlewyrchu blaenoriaethau cenedlaethol i wella seilwaith cerdded a beicio ledled Cymru.

Dwyeddod Huw Percy, pennaeth gwasanaeth priffyrdd Cyngor Môn: "Mae'r prosiect hwn yn mynd i'r afael â'r cysylltiad presennol rhwng cymunedau Malltraeth a Niwbwrch."

"Drwy greu llwybr teithio llesol pwrpasol, rydym yn darparu ffordd ddiogel, gynaliadwy a hygyrch i drigolion gerdded a beicio rhwng y pentrefi."

"Mae hyn yn cefnogi teithiau bob dydd, ond mae hefyd yn cryfhau cydlyniant cymdeithasol ac yn hyrwyddo dewisiadau teithio iachach a mwy cynaliadwy."

Yn ôl y cyngor sir, derbyniodd gweledigaeth Glasffordd Môn gefnogaeth dda gan y cyhoedd yn ystod ymgynghoriad yn 2022.

Cadarnhaodd ymgynghoriad pellach ar y cynllun hwn, a gynhaliwyd ym mis Ebrill 2024, gymeradwyaeth gan drigolion a rhanddeiliaid, yn enwedig ar gyfer cysylltiadau teithio llesol mwy diogel a hygyrch.

Mae'r prosiect yn cynnwys pedwar targed allweddol:

  • Ailgysylltu Malltraeth a Niwbwrch drwy ddarparu llwybr teithio llesol diogel
  • Gwella'r cysylltiad gyda chyrchfannau allweddol i drigolion, gan gynnwys canol y pentref ac Ysgol Santes Dwynwen
  • Cryfhau cysylltiadau â Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch
  • Cyflawni buddion bioamrywiaeth drwy liniaru ecolegol a gwella cynefinoedd

Bydd y gwaith adeiladau gan cwmni Jones Bros yn decrhau ar 1 Medi ac yn parhau hyd at ddechrau 2026, gan gynnwys: 

  • Sefydlu llwybr aml-ddefnydd 1.25km ar gyfer cerddwyr a beicwyr, wedi'i wahanu oddi wrth draffig, o Faes Parcio Pen Cob i ymyl Niwbwrch
  • Cyflwyno mesurau tawelu traffig a bwrdd uwch ym mhentref Niwbwrch i wella diogelwch
  • Gosod pedwar rhwystr allanol ar hyd y Cob i greu ardaloedd gwylio mwy diogel a lleihau gwrthdaro posibl rhwng defnyddwyr

O ystyried lleoliad y llwybr mewn ardaloedd sensitif, gan gynnwys Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), mae'r Cyngor Môn wedi ymrwymo i ddarparu amddiffyniadau amgylcheddol cryf:

  • Adfer cynefinoedd ym Mhwll Traeth Bach i gefnogi ystod eang o rywogaethau
  • Monitro ecolegol parhaus a chydweithio ag arbenigwyr i sicrhau buddion bioamrywiaeth hirdymor

Mae'r prosiect yn cael ei redeg mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Grwp Llywio Glasffordd Môn.

Dywedodd Dylan Williams, rheolwr gweithrediadau CNC yn y Gogledd Orllewin: "Bydd ymestyn llwybr Lôn Las Cefni yn gwella cysylltedd â gwasanaethau a chyrchfannau allweddol ac yn darparu manteision iechyd a lles i drigolion ac ymwelwyr."

"Mae'r cynllun wedi'i gynllunio i wella'r amgylchedd cyfagos trwy adfer cynefinoedd a gwelliannau bioamrywiaeth, gan sicrhau bod y llwybr yn helpu pobl a natur i ffynnu. Bydd y dull integredig hwn yn cryfhau mynediad cymunedol wrth hyrwyddo gwydnwch ecolegol hirdymor."

Bydd staff y cyngor yn cynnal sesiwn galw heibio am y prosiect teithio llesol yn Sefydliad Pritchard ddydd Iau 4 Medi rhwng 1yp tan 7yn. Nid oes angen gwneud apwyntiad.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM Breakfast with Ray Owen

    7:00am - 10:00am

    Good Morning! Ray Owen is here to start your day with great music on MônFM

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'