Gwaith rhagarweiniol ar Bont Menai

Monday, 24 November 2025 14:26

By Ystafell Newyddion MônFM

Bydd gwaith rhagarweiniol i hwyluso'r atgtweiriad parhaol i'r broblem ddiweddar gyda thrawstiau croes ar Bont Menai yn dechrau ddydd Iau.

Cafodd y bont ei chau ar frys i bob traffig y mis diwethaf, wedi i archwiliad ddarganfod bod angen gosod bolltau newydd ar drawstiau'r bont.

Disgwylir i'r gwaith bara pum niwrnod o ddydd Iau (27 Tachwedd) tan ddydd Mercher 3 Rhagfyr a bydd yn golygu cau un lôn ar y bont, ar ddyddiau'r wythnos yn unig, rhwng 7.3yb a 5yp.

Ni fydd mesurau rheoli traffig mewn grym ar y penwythnos. 

Dyweddod llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd amserlenni ar gyfer gosod yr atgyweiriad parhaol yn cael eu cyhoeddi ar ôl iddynt gael eu cadarnhau gyda UK Highways A55 Ltd."

"Diolch am eich amynedd wrth i'r gwaith hanfodol hwn gael ei wneud."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Scratch, Crackle, and Pop!

    7:00pm - 9:00pm

    Tom Cooke delves into his Vinyl collection every Monday evening on MônFM

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'