Gwaith ar Bont Menai i barhau tan 2027

Wednesday, 21 January 2026 18:41

By Ystafell Newyddion MônFM

Ni fydd gwaith atgyweirio ar Bont Menai yn cael ei gwblhau tan 2027, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau.

Mewn datganiad brynhawn Mercher, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth y bydd ail gam y gwaith cynnal a chadw yn dechrau'r mis nesaf.

Mae'n golygu na fydd y gwaith yn cael ei gwblhau yn ystod dathliadau 200 mlynedd y bont.

Dyweddod Ken Skates: "Hoffwn ailadrodd yn blwmp ac yn blaen y rhwystredigaeth a'r siom dwfn a deimlir ynglŷn â'r oedi i'r rhaglen."

"Er ein bod i gyd yn siomedig na ellid cwblhau'r gwaith cyn y garreg filltir arwyddocaol hon, rhaid i ddiogelwch a chadernid strwythurol barhau i fod yn flaenoriaeth bob amser."

"Ein nod bob amser fu parhau i gynnal y strwythur eiconig hwn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Mae gwaith Cam 2 yn cynnwys pecyn cynhwysfawr o waith cynnal a chadw – ond y gwaith mwyaf nodedig yw ail-baentio'r strwythur.

Bydd y bont yn parhau i fod ar agor i gerbydau hyd at 7.5 tunnell drwy gydol gwaith Cam 2, a bydd trefniadau rheoli traffig ar waith am gyfnodau byr i gwblhau elfennau allweddol.

Mae'r partïon wedi gweithio ar y cyd i ailgynllunio'r fethodoleg yn y rhaglen ddiwygiedig er mwyn lleihau'n sylweddol yr angen am reoli traffig ar y bont, o'i gymharu â'r cynlluniau cynharach, a thrwy hynny leihau tarfu ar drigolion, cymudwyr a busnesau.

Mae gorfodi'r terfyn pwysau 7.5‑tunnell yn parhau i fod yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y bont yn cael ei gweithredu mewn ffordd ddiogel wrth i'r gwaith fynd rhagddo, felly gofynnwn yn barchus i ddefnyddwyr y bont gydymffurfio â'r terfyn pwysau er mwyn osgoi cau ymhellach.

Ychwanegodd Mr Skates, sydd hefydd Ysgrifennydd y Gogledd: "Mae (cwmni) UK Highways A55 Ltd, gyda chefnogaeth Spencers Bridge Engineering a COWI, yn parhau i gyflawni'r gwaith ar ran Llywodraeth Cymru."

"Mae swyddogion wedi gofyn am sicrwydd gan y contractwr ynghylch y camau sy'n cael eu cymryd i atal oedi pellach, yn dilyn yr heriau mewn perthynas ag amserlennu, caffael a gorfodi hyd yn hyn."

"Rwyf eisoes wedi cwrdd ag uwch gynrychiolwyr Equitix, sefydliad goruchwylio UK Highways A55 Ltd, i geisio sicrwydd y bydd y gwaith yn cael ei gyflawni mewn modd diogel a chyn gynted â phosibl."

Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, wedi beirniadu'r oediadau diweddaraf i'r gwaith, a ddechreuodd yn 2022 a fydd yn cael ei gwblhau ddwy flynedd yn hwyrach na'r addawyd yn wreiddiol.

Dyweddod yr AS Ynys Môn: "Bydd yr oedi pellach i’r gwaith ar Bont y Borth yn newyddion rhwystredig i bobl lleol."

"Fodd bynnag, rwy’n croesawu’r ffaith bod ein galwadau i wneud popeth posibl i leihau mesurau rheoli traffig wedi cael eu clywed, ac y bydd yr anghyfleustra i deithwyr yn fwy cyfyngedig ei natur o hyn ymlaen, gydag addewid y bydd rheoli traffig yn cael ei gyfyngu i ychydig ddyddiau ar y tro, yn hytrach nag wythnosau neu fisoedd."

"Byddaf yn codi'r mater hwn ar frys, gan geisio sicrwydd cadarn na fydd unrhyw oedi pellach, ochr yn ochr â chefnogaeth i'r economi leol yn y cyfamser."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'