Golau gwyrdd i ddatblygiad tai yn Llanystumdwy

Monday, 21 July 2025 16:46

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Gwynedd

Mae cynghorwyr wedi cymeradwyo cynlluniau i adeiladu pum cartref newydd i drigolion lleol yn Llanystumdwy

Mae'r datblygiad yn rhan o raglen adeiladu Tŷ Gwynedd gan Cyngor Gwynedd, sy'n anelu i godi hyd at 90 o gartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel i bobl lleol eu rhentu neu brynu.

Ar safle Llanystumdwy, mae'r cynlluniau'n cynnwys un tŷ dwy ystafell wely a phedwar tŷ tair ystafell wely, gyda'r tai wedi'u cynllunio i fod yn hawdd i'w haddasu i allu cynnwys mwy o ystafelloedd pe bai angen yn y dyfodol er mwyn eu gwneud yn gartrefi gydol oes i deuluoedd.

Amcan y cynllun yw creu cartrefi fforddiadwy, addasadwy, cynaliadwy ac ynni-effeithlon i bobl leol, yn enwedig i'r rheini sy'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i gartref ar y farchnad agored ond sydd efallai ddim yn gymwys am dŷ cymdeithasol.

Mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo ar safleoedd eraill yn Llanberis, Bangor, a Morfa Nefyn, gyda datblygiadau pellach ar y gweill ar draws y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Rowlinson, aelod y cabinet dros tai ac eiddo: "Mae cynllun Tŷ Gwynedd yn gam cadarn tuag at fynd i'r afael â'r prinder cartrefi fforddiadwy yng Ngwynedd."

"Mae effaith yr argyfwng tai ar ein cymunedau'n glir ac yn peri pryder, gyda gormod o bobl leol yn gweld dim dewis ond gadael eu milltir sgwâr i chwilio am gartrefi."

"Dyna pam mae'n hollbwysig ein bod ni'n cymryd camau pendant i adeiladu cartrefi newydd sy'n addas ac yn fforddiadwy i bobl Gwynedd."

"Mae ein datblygiad yn Llanystumdwy yn ddarn allweddol o'r jig-so ehangach, gan gyfrannu'n uniongyrchol at sicrhau bod ein cymunedau Cymraeg nid yn unig yn goroesi, ond yn ffynnu, ac yn parhau i fod yn llefydd lle mae pobl Gwynedd yn gallu byw, gweithio a chyfrannu'n llawn i gymuned fywiog."

Mae'r datblygiadau yn rhan o gynllun gweithredu tai ehangach gan y cyngor i fynd i'r afael â'r prinder tai yn y sir a sicrhau bod trigolion Gwynedd yn cael mynediad at dai fforddiadwy o safon yn eu cymunedau eu hunain.

Mae'r cynllun ehangach yn bwriadu darparu dros 1,000 o dai fforddiadwy dros y blynyddoedd nesaf.

Unwaith y bydd y cartrefi yn Llanystumdwy ar fin cwblhau, bydd yn bosib i bobl leol ymgeisio amdanynt trwy Tai Teg, sy'n gweinyddu cynlluniau tai fforddiadwy ar gyfer Cyngor Gwynedd.

Mae'r cyngor yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn rhoi ei enw ymlaen ar gyfer un o'r tai i wirio'r meini prawf a chofrestru gyda Tai Teg cyn gynted â phosibl.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Sioe Môn ar MonFM

    2:00pm - 4:00pm

    Mae criw MônFM yn crwydo o gwmpas Sioe Môn! Gwrandewch ar eich radio, ar ap MônFM neu drwy eich Seinydd Clyfar

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'