
Mae gofalwyr maeth yn dathlu cyfraniad hollbwysig eu plant eu hunain at y daith faethu.
Yn ystod Wythnos Plant Gofalwyr Maeth (13 - 19 Hydref), bydd gofalwyr o Ynys Môn a Gwynedd yn rhannu hanesion am y ffyrdd mae eu plant wedi helpu i wneud i'r rheini sydd mewn gofal deimlo yn fwy hapus a diogel, a bod mwy o groeso a chariad iddynt.
Yn ôl Maethu Cymru, mae rhai pobl yn dweud mai un o'r rhwystrau i ddod yn ofalwyr maeth yw'r effaith bosib ar eu plant, ond mae llawer o blant yn gweld manteision o fod yn rhan o deulu sy'n maethu.
Gall gweld bywyd o safbwynt rhywun arall fod yn brofiad cyfoethog a all helpu plentyn i ddysgu a datblygu fel unigolyn. Mae plant hefyd yn gweld bod modd iddynt ddatblygu eu cysylltiadau eu hunain â phlant sy'n cael eu maethu yn eu cartref.
Mae Karen a Marc wedi bod yn maethu gyda'u hawdurdod lleol, Maethu Cymru Gwynedd, ers 2016, ac maent wedi cael cefnogaeth eu tri phlentyn - Emma, Ben a Lewis - bob cam o'r ffordd. I'w plant nhw, mae maethu yn golygu mwy na rhannu eu tŷ; maent wedi croesawu pob plentyn fel gwir aelod o'r teulu.
Dros y blynyddoedd, mae'r teulu wedi rhoi cariad, sefydlogrwydd a chysur i blant sy'n wynebu dechrau anodd iawn i'w bywydau - o fabis bach newydd-anedig i blant ifanc sydd ag anghenion ychwanegol.
Mae eu merch hynaf, Emma - sy'n 21 oed erbyn hyn - wedi rhannu ei phrofiad teimladwy o gael ei magu fel rhan o deulu maethu drwy Maethu Cymru Gwynedd.
Meddai: "Mae wedi bod yn brofiad hyfryd rhoi'r cariad, y diogelwch a'r gefnogaeth y mae'r plant yn haeddu. Mae gwybod eich bod wedi eu helpu i dyfu i bwy maen nhw fod yn rhywbeth arbennig iawn."
"Mae pobl yn gofyn yn aml sut mae'n teimlo pan fo'r plant yn gadael. A bod yn onest, mae bob amser yn chwerwfelys. Rydym yn dod mor agos atyn nhw - maen nhw'n teimlo fel rhan o'r teulu - felly mae'n anodd ffarwelio â nhw."
"Ond ar yr un pryd, mae'n braf iawn gwybod eu bod yn symud ymlaen i gael dechrau o'r newydd, fel y maent yn ei haeddu. Mae eu gweld nhw'n hapus, wedi setlo ac yn gwneud yn dda yn gwneud y cwbl yn werth chweil."
"A phan rydym yn cadw mewn cysylltiad ac yn gweld eu cynnydd, mae'n ein hatgoffa o bwysigrwydd maethu."
Mae Kirsty a Matt, sy'n ofalwyr maeth ar Ynys Môn, wedi rhannu eu stori am gynnwys eu plant yn y broses o faethu gyda Maethu Cymru Môn.
Dywedodd Kirsty: "Dechreuodd Mam a Dad faethu ym 1995 ac felly rydw i wedi cael fy magu ar aelwyd brysur fel plentyn i ofalwyr maeth. Ar ôl tyfu i fyny, roeddwn yn rhan naturiol o'u rhwydwaith cymorth estynedig."
"Ar y dechrau, cawsom ein cymeradwyo i ddarparu egwyl fer a gofal seibiant, i gefnogi Mam a Dad a'r plant yr oeddent yn gofalu amdanynt. Roedd gen i fantais oherwydd fy nghefndir, ac roedd yn estyniad naturiol o'r hyn yr oeddem yn ei wneud yn barod."
"Mae fy nheulu wastad wedi bod yn un teulu cymysg. Mae Matt yn llys dad i fy mab hynaf, mae gen i frodyr a chwiorydd maeth, ac rydw i'n rhan o rwydwaith cefnogaeth eang – pobl yr ydw i'n eu cefnogi, pobl yr ydw i'n dibynnu arnynt a phobl y mae gen i feddwl ohonynt ac sydd gan feddwl ohonof i - ac rydym yn un teulu mawr."
"Ers dechrau maethu yn 2014, rydym wedi cael merch. Mae maethu wedi bod yn rhan o'i bywyd o'r dechrau. Mae'n siarad am ei pherthynas â'i brodyr a chwiorydd maeth hyd yn oed ar ôl iddynt symud ymlaen."
"Rydw i wedi gweld yr effaith barhaol y mae maethu'n ei gael a'r atgofion hyfryd yr ydym yn eu rhannu."
"Dros y blynyddoedd mae'r plant wedi ein helpu i groesawu eu brodyr a chwiorydd maeth ac maent yn mwynhau cael plant eraill i chwarae efo nhw, rhannu hoff brydau bwyd, dysgu gemau newydd a dangos i'r plant yr ydym yn gofalu amdanynt sut yr ydym ni'n gwneud pethau fel teulu, fel gwneud gwaith cartref efo'n gilydd."
"Mae pob teulu'n wahanol, maent yn edrych yn wahanol ac maent yn gwneud pethau'n wahanol, ond yr hyn sy'n gweithio i ni ydi cyfathrebu. Mae'n hanfodol bwysig gwneud yn siŵr bod pawb yn cael ei glywed a'i gynnwys. Hynny a chael rhwydwaith cefnogaeth anhygoel!"
Bob mis Hydref, mae gwasanaethau maethu ledled y DU yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau i gydnabod a gwobrwyo plant gofalwyr maeth oherwydd y rôl bwysig y maent yn ei chwarae yn eu cartref, gan wneud i blant mewn gofal deimlo eu bod yn cael croeso, eu bod yn hapusach, yn fwy diogel, a'u bod yn cael eu caru.
Ychwanegodd Fôn Roberts, cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Ynys Môn: "Mae pob math o deuluoedd maeth ond yr hyn sy'n bwysig ydi'r diogelwch, gofal, cariad a sylw y mae bod yn rhan o deulu sefydlog yn ei gynnig."
"Yn ystod Wythnos Plant Gofalwyr Maeth rydym yn falch o ddiolch i blant teuluoedd Maeth Ynys Môn am bopeth y maent yn ei wneud."
I gael gwybod mwy am ddod yn ofalwr maeth yn eich ardal chi, ewch i maethucymru.gwynedd.llyw.cymru neu ynysmon.maethucymru.llyw.cymru