Mae dyn 40 oed wedi’i gyhuddo o nifer o droseddau domestig dros gyfnod o ddwy flynedd.
Yn ôl yr heddlu, mae Matthew Thomas o Gaerwen yn cael ei gyhuddo o stelcian ac ymddygiad sy'n rheoli ac yn gorfodi rhwng 2022 a 2024.
Cafodd Thomas ei gadw yn y ddalfa mewn llys ynadon ddydd Mawrth.
Fe fydd Thomas yn ymddangos gerbron barnwr yn Llys y Goron Lerpwl ar ddydd Llun 16 Rhagfyr.


Bangor: cau siop am werthu tybaco anghyfreithlon
Niwbwrch: ystâd newydd bron â'i chwblhau
Y Gân yw Cân i Gymru 2026
Cân i Gymru yn cyhoeddi rhestr fer
Gwaith ar wella safonau tai cyngor ym Môn