Diwrnod canlyniadau ar gyfer myfyrwyr TGAU

Thursday, 21 August 2025 13:58

By Ystafell Newyddion MônFM

Shuttlestock

Mae myfyrwyr TGAU yn Ynys Môn a Gwynedd wedi bod yn derbyn eu canlyniadau.

Ar draws Gymru, mae nifer y graddau uchaf wedi cynyddu ychydig - ond mae'r ceisiadau wedi gostwng - gyda newidiadau mawr i gymwysterau ar y gorwel.

O fis Medi ymlaen, bydd pynciau TGAU yn dechrau cyd-fynd â'r cwricwlwm newydd i Gymru.

Mae Cyngor Ynys Môn wedi llongyfarch myfyrwyr ar eu llwyddiant wrth iddynt dderbyn eu canlyniadau TGAU a Lefel 1 a 2.

Dwyeddod y Cynghorydd Dafydd Roberts, sy'n dal y portffolio addysg: "Mae hon yn garreg filltir ragorol a boed chi'n parhau gyda'ch addysg neu'n cychwyn ar eich gyrfa, dymunaf yn dda i chi ar y bennod nesaf."

"Diolch o galon hefyd i'r staff ysgol ymroddedig ynghyd â rhieni a theuluoedd am yr holl anogaeth ac arweiniad ar hyd y daith." 

Ychwanegodd Aaron C Evans, cyfarwyddwr addysg, sgiliau a phobl ifanc: "Gobeithiaf y bydd eich canlyniadau yn agor y drysau yr ydych wedi bod yn gweithio tuag atynt - boed hynny'n parhau yn yr ysgol, symud ymlaen i goleg, dechrau prentisiaeth neu symud i fyd gwaith."

"I unrhyw un sy'n teimlo'n ansicr am y camau nesaf, mae digon o gyngor ar gael drwy'r ysgolion a Gyrfa Cymru. Dymuniadau da i chi gyd ar gyfer y dyfodol."

"Diolch o galon i'n hysgolion, athrawon, staff addysgol a phartneriaid eraill o'r gymuned ehangach am eu hymroddiad, gwaith caled ac arweiniad wrth iddynt helpu ein dysgwyr i gyrraedd y cam pwysig hwn yn eu bywydau."

Yng Ngwynedd, mae cyngor y sir wedi estyn llongyfarchiadau i ddisgyblion ledled y sir ar eu llwyddiant yn arholiadau TGAU eleni.

Dywedodd y Cynghorydd Dewi Jones, aelod y cabinet dros addysg: "Mae'r canlyniadau eleni yn hynod galonogol, ac mae pob disgybl yn haeddu clod am eu hymdrechion. Rydym yn falch iawn o'u llwyddiant ac yn parhau i fod yn ymrwymedig i'w cefnogi i ffynnu ymhellach."

"Hoffwn hefyd ddiolch i'r athrawon a'r staff ysgolion am eu gwaith caled a'u hymroddiad drwy gydol y flwyddyn."

Ychwanegodd Gwern ap Rhisiart, pennaeth addysg Cyngor Gwynedd: "Mae'r canlyniadau TGAU eleni yn adlewyrchu ymroddiad, dyfalbarhad a thalent ein pobl ifanc. Llongyfarchiadau gwresog iddynt i gyd."

"Mae'r llwyddiant hwn yn dyst i'r gwerthoedd craidd sy'n sail i'n cyfundrefn addysg yma yng Ngwynedd – cynhwysiant, llesiant, cyfle cyfartal, a chefnogi pob disgybl i gyrraedd eu potensial fel unigolion."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'