
Mae cylch meithrin yn Neiniolen wedi agor cyfleusterau newydd fel rhan o ehangu gwasanaethau gofal plant yn yr ardal.
Mae mwy na 70 o blant eisoes yn cael budd o ddarpariaeth Dechrau'n Deg yn y pentref, a daeth nifer ohonynt, eu teuluoedd ac arweinwyr cymunedol at ei gilydd ar gyfer diwrnod o hwyl ac i nodi agoriad swyddogol y cyfleusterau newydd.
Prosiect gan Llywodraeth Cymru yw Dechrau'n Deg sy'n cefnogi teuluoedd gyda phlant 0-4 oed drwy gynnig gwasanaeth ymwelwyr iechyd dwys, cefnogaeth teulu, cymorth iaith a lleferydd, a 12.5 awr o ofal plant am ddim i blant dwy oed.
Fel rhan o'r cynllun, mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn llwyddiannus yn ei gais am arian cyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar o bron i £600,000 i wella cyfleusterau i weithredu'r cynllun yn yr ardal.
Golygai hyn fod Cylch Meithrin Deiniolen wedi cael adeilad newydd sbon fydd yn eu galluogi i gynnig mwy o lefydd gofal plant am ddim i blant dwy oed yr ardal.
Drwy hyn, mae 13 o blant eisoes yn cael gofal plant o ansawdd uchel yn yr adeilad newydd, sy'n helpu eu rhieni i fedru symud ymlaen i fyd gwaith neu hyfforddiant.
Fel rhan o'r datblygiad, bydd swyddfa newydd i'r tîm Dechrau'n Deg wedi ei leoli wrth garreg drws y Cylch Meithrin.
Bydd ymwelydd Iechyd Dechrau'n Deg, Nyrs Feithrin, Swyddog Cefnogi Teulu a'r Swyddog Chwarae a Datblygiad Cynnar yn gweithio o'r swyddfa newydd gyda ymweliadau gyda'r tîm Iechyd ar gael o ddydd Llun hyd at ddydd Mercher.
Dywedodd Sue Layton, arweinydd tîm cefnogi teulu, plant a chefnogi teuluoedd gan Gyngor Gwynedd: "Rydym yn falch o ddod â'n gwasanaeth Cefnogi Teuluoedd i Deiniolen. Ein cenhadaeth yw i sicrhau cefnogaeth i unigolion a theuluoedd yn y gymuned. Edrychwn ymlaen at barhau i gefnogi teuluoedd Deiniolen."
Agorwyd y cyfleusterau newydd yn Neiniolen gan y cynghorydd lleol, Elfed Williams: "Roedd hi'n braf cael y cyfle i agor y safle newydd, sgwrsio gyda'r teuluoedd a gwerthfawrogi'r adnoddau a'r cyfleusterau newydd sydd bellach ar gael i ni'n lleol yn Neiniolen."
"Rydw i'n hynod falch fod Uned Blynyddoedd Cynnar Cyngor Gwynedd wedi gweithio'n llwyddiannus i ehangu'r cynllun – mae'n newyddion da i blant a theuluoedd Deiniolen a hefyd i un o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn y sir."
Meddai Leia Jones, trysorydd Cylch Meithrin Deiniolen ar ran reolwyr y ddarpariaeth gofal plant: "Mae wedi bod yn gyfnod hynod o brysur y tu ôl i'r llenni wrth i ni weithio'n galed i sefydlu Cylch newydd yn Neiniolen."
"Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod y Cylch bellach ar agor, gan ddod â chymaint o gyfleoedd i blant dwy oed o'r ardal leol."
"Diolch o galon i Dechrau'n Deg, Cyngor Gwynedd, a Llywodraeth Cymru am y cyfle gwerthfawr hwn."
"Mae hyn wedi ein galluogi i dderbyn mwy o blant, ac yn ogystal â hynny, i gyflogi mwy o staff – gyda phump allan o'r saith aelod presennol yn byw yn Neiniolen. Rydym hefyd wedi gallu cynnig prentisiaethau i chroesawu aelodau newydd i'r tîm."
"Diolch arbennig i'r rhai a roddodd eu hamser yn wirfoddol i helpu sefydlu'r Cylch newydd, symud popeth o'r hen safle, i beintio a phlannu yn yr ardal allanol – rydym yn wirioneddol ddiolchgar."
"Edrychwn ymlaen at weld y Cylch yn mynd o nerth i nerth dros y misoedd nesaf, ac yn llawn cyffro am y dyfodol."
Ychwanegodd y Cynghorydd Menna Trenholme, aelod y cabinet dros Plant a chefnogi teuluoedd: "Mae cael mynediad at ofal plant da yn lleol yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i ddatblygiad plentyn."
"Mae cynlluniau fel hyn yn rhoi'r cychwyn gorau i blant a hefyd yn mynd i'r afael ag amddifadedd. Rwy'n edrych ymlaen at weld rhagor o blant a theuluoedd Deiniolen yn elwa o'r cynllun, a'r effaith gadarnhaol y bydd yn ei gael ar eu dyfodol."
Mae cynllun Dechrau'n Deg yn cael ei redeg yn lleol yng Ngwynedd gan Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd y Cyngor.