Mae dau peiliot yn derbyn triniaeth am fân anafiadau yn dilyn damwain yn ymwneud ag awyren hyfforddi'r RAF.
Mae'r gwasanaethau brys yn lleoliad y ddamwain yn y ardal Pencarnisiog ac maer' heddlu yn annog y cyhoedd i osgoi'r ardal nes rhoddir rhybudd pellach.
Mae'r Awyrlu Brenhinol wedi cadarnhau ei fod yn ymchwilio i ddigwyddiad yn ymwneud ag awyren Hawk T2, a oedd yn hedfan o RAF Y Fali.
Mae hyfforddi gyda'r awyrennau ymladd Hawk wedi'i atal dros dro fel mesur rhagofalus.
Mae'r ddau beilot wedi cael eu cludo gan ambiwlans awyr i Ysbyty Queen Elizabeth yn Birmingham, cartref y Ganolfan Frenhinol ar gyfer Meddygaeth Amddiffyn.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, nid oes unrhyw addroddiadau o unrhyw ddifrod neu anafiadau ehangach.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dweud bod y tân sy'n ymwneud â'r awyren dan reolaeth.
Mae Ambiwlans Awyr Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru hefyd yn bresennol yn lleoliad y gwrthdrawiad.
Dwyweddod llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân: "Gofynnir i aelodau o'r cyhoedd osgoi'r ardal tra bod y gwasanaethau brys yn parhau i ddelio a’r digwyddiad yn ddiogel."
Cafodd gwasanaethau trenau eu tarfu hefyd am gyfnod rhwng Caergybi a Bangor oherwydd "rhwystr ar y trac" ond maent bellach wedi ailddechrau.
Mae'r Ysgrifennydd Amddiffyn, Wes Streeting, wedi postio ar X bod ymchwiliad i'r ddamwain ar y gweill, gan ychwanegu: "Mae fy meddyliau, yn anad dim, gyda'r peilotiaid. Byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth maes o law."
Dwyeddod y Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Rwy’n falch iawn o glywed nad yw criw'r awyren jet Hawk yn RAF Fali wedi'u hanafu'n ddifrifol. Diolch i'r holl wasanaethau brys am yr ymateb cyflym, ac rwy'n dymuno gwellhad cyflym i'r criw."
Dwyeddod Llinos Medi, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ynys Môn: "Rwy’n ymwybodol o’r digwyddiad difrifol sydd newydd ddigwydd yn ymwneud ag awyren o RAF Fali. Rwy’n gobeithio o waelod calon bod pawb sydd wedi’u heffeithio yn ddiogel ac yn iawn."
"Hoffwn ddiolch o waelod calon i’n gwasanaethau brys ac i bawb ar y safle sydd wedi ymateb mor gyflym ac effeithiol."


Carcharu dyn am gam-drin plentyn yn rhywiol
Mesurau newydd i hybu ailgylchu ym Môn
Ysgol yn enwi datblygiad tai newydd ym Mangor
Ymestyn TaithCymru i Gaergybi
Dim treth twristiaeth ym Môn - am y tro