
Mae dyn 19 oed wedi cael ei gyhuddo yn dilyn ffrae honedig ym Methesda.
Aed â dyn i'r ysbyty ar ôl iddo gael ei daro gan gar yn ystod aflonyddwch ar y Stryd Fawr brynhawn Llun.
Mae Thomas Baker o Glan Ogwen, Bethesda, wedi cael ei gyhuddo o anafu yn fwriadol, ymosod, gyrru'n beryglus, gyrru heb yswiriant a gyrru tra ei fod wedi ei wahardd rhag gwneud hynny.
Bydd yn ymddangos yn llys ynadon Llandudno ddydd Mercher.
Mae dyn 33 oed a dynes 35 oed wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau yn parhau.
Mae patrolau’r heddlu wedi cynyddu yn ardal Bethesda yn dilyn y digwyddiad - ac mae ditectifs hefyd wedi annog y cyhoedd i beidio â rhannu lluniau o'r digwyddiad sy'n cylchredeg ar y cyfryngau cymdeithasol.
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am yr aflonyddwch, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddefnyddio'r cyfeirnod C128574.
Fel arall, cysylltwch â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.