Cronfa yn ailagor ar gyfer prosiectau cymunedol

Tuesday, 10 March 2026 14:29

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Gwynedd

Mae dros £400,000 wedi cael ei ddarparu i wella cyfleusterau cymunedol yn nhrefi a phentrefi Gwynedd.

Mae Cronfa Cefnogi Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned Gwynedd wedi ail-agor ar gyfer 2026 yn dilyn cynllun peilot llynedd.

Mae’r gronfa wedi’i sefydlu er mwyn galluogi cymunedau i wella edrychiad, cyfleusterau a bwrlwm trefi a phentrefi ar draws y sir trwy welliannau bach, effaith uchel.

Gall gymunedau ymgeisio am rhwng £5,500 a hyd at £8,500 y gymuned ar gyfer gwella mannau cyhoeddus a chymunedol neu gynlluniau adfywio ar gyfer canol trefi a'r stryd mawr.

Mae ffocws y gronfa eleni ar gynlluniau cyfalaf sy’n cynnig cyfle pellach i fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith cymunedol. Rhai enghreifftiau posib fyddai gwelliannau i fannau chwarae, gwella hygyrchedd, a harddu mannau cyhoeddus.

Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, aelod y cabinet dros yr economi a chymuned: "Mae’r gronfa yma wedi ei greu er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i drigolion a chymunedau Gwynedd."

"Mae’r adborth rydym wedi ei dderbyn gan gymunedau i brosiectau llynedd wedi bod yn bositif iawn, gyda llawer yn dweud na fyddent wedi gallu gwireddu eu cynlluniau heb y gefnogaeth ariannol yma."

"Rydym yn edrych ymlaen i gyd-weithio eto eleni gyda’r cynghorau dinas, tref a chymuned i gyflawni rhagor o welliannau sydd wedi eu siapio gan ddymuniadau’r gymuned."

"Mae’r gronfa yn agored i holl gynghorau lleol yng Ngwynedd. Dwi’n gobeithio’n fawr y bydd pob ardal yn gweld y manteision ac yn elwa ar y cyfle hwn.”

Er mwyn sicrhau bod y prosiectau’n adlewyrchu anghenion  a blaenoriaethau trigolion lleol mae’r cynghorau tref a chymuned yn cael eu hannog i drafod gyda’r gymuned cyn cyflwyno ceisiadau.

Mae swyddogion cefnogi dymunedau hefyd ar gael i ddarparu cymorth ar gynlluniau posibl trwy gydol y cyfnod ymgeisio gan e-bost: cefnogicymunedau@gwynedd.llyw.cymru

Bydd y gronfa yn cau i geisiadau ar ddydd Llun 15 Mehefin.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Steffan Huw

    2:00pm - 4:00pm

    Join Steffan for your weekday afternoon Soundtrack!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'