Cau ffyrdd ar gyfer Ffair Borth

Thursday, 16 October 2025 07:46

By Ystafell Newyddion MônFM

Mae Cyngor Môn wedi cadarnhau trefniadau ar gyfer Ffair Borth 2025.

Bydd y ffair stryd draddodiadol yn cael ei chynnal ym Mhorthaethwy ar ddydd Gwener 24 Hydref, yng nghysgod cau rhannol y bont grog.

Cau ffyrdd

Bydd gorchymyn cau ffyrdd ar gyfer Ffordd Telford, Stryd y Bont, Ffordd y Ffair a Stryd Y Paced yn weithredol rhwng 2yp ar ddydd Iau 23 Hydref a 7yb ar ddydd Sadwrn 25 Hydref.

Bydd gwyriadau yn weithredol a bydd arwyddion yn cael eu codi ar gyfer y rhain.

Parcio

Bydd meysydd parcio Ffordd y Ffair a Llys Menai yn cael eu defnyddio gan y ffair o hanner nos ar fore Mawrth 23 Hydref tan 7yb ar ddydd Gwener 25 Hydref.

Gellir parcio ym meysydd parcio Bulkley a Choed Cyrnol fydd ar agor fel yr arfer.

Cludiant cyhoeddus

Bydd safle bws Rhyd Menai, Ffordd Caergybi ar ddefnydd i bob gwasanaeth ddydd Iau 23 Hydref a dydd Gwener 24 Hydref.

Dim parcio llwytho / dadlwytho

Bydd cyfyngiadau Dim parcio Dim Llwytho / Dadlwytho yn weithredol yng Nghil Bedlam, y Stryd Fawr a rhannau o Ffordd Cadnant o'r 23 Hydref tan 7yb ar 25 Hydref.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ynys Môn: "Mae’r ffair stryd draddodiadol hon wedi bod yn cael ei mwynhau ers cenedlaethau. Dewch i fwynhau’r reidiau, y stondinau ac awyrgylch y ffair."

"Oherwydd bod y ffair yn cael ei chynnal ar y stryd, mae’n anorfod y bydd yn amharu rhywfaint ar y dref. Mae’r trefniadau isod wedi cael eu sefydlu er mwyn lleihau i’r eithaf unrhyw aflonyddwch a sicrhau y gall pawb fwynhau profiad diogel."

Yn dilyn cau'r bont grog yn ddiweddar, mae'r cyngor hefyd wedi galw ar drigolion ac ymwelwyr i gefnogi masnachwyr lleol.

Mae'r bont ar agor rhwng 7am a 7pm gyda chyfyngiadau ar gerbydau mwy mewn grym.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Cordia

    5:00pm - 7:00pm

    Dechreuwch eich nos Sadwrn gyda cherddoriaeth a sgwrs gan ferched Cordia

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'