Carcharu thechnegydd ysgol am gam-drin bechgyn

Friday, 25 July 2025 17:28

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn a wnaeth gam-drin dau fachgen yn rhywiol tra'n gweithio mewn ysgol wedi cael ei garcharu am bedair blynedd.

Roedd Jonathon Evans o Falltraeth, ger Bodorgan, wedi gwadu targedu'r ddau rhwng 2017 a 2020, ond fe'i cafwyd yn euog o naw cyhuddiad.

Ar y pryd, roedd yn gweithio fel technegydd mewn ysgol ar Môn ac yn gwirfoddoli fel Cadeitiaid Awyr gyda'r RAF.

Ychwanegodd y ddau fachgen ar Snapchat cyn anfon delweddau rhywiol ohono'i hun at un ohonynt, gan ofyn i'r bachgen anfon delweddau tebyg iddo yntau.

Ar achlysuron eraill ceisiodd afael yn organau rhywiol y bechgyn.

Cafwyd Evans yn euog o bedwar cyhuddiad o annog plentyn i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol, tri chyhuddiad o ymosod yn rhywiol a dau gyhuddiad o gam-drin sefyllfa o ymddiriedaeth er mwyn cyflawni gweithgaredd rhywiol.

Yn dilyn y ddedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener, dyweddod y Ditectif Gwnstabl Richard Dwyfor Clark o Heddlu Gogledd Cymru: "Cyflawnodd Jonathon Evans droseddau rhywiol difrifol yn erbyn plant yn ei ofal fel arweinydd cadetiaid ac aelod o staff yr ysgol."

"Yng nghanol yr achos hwn mae grŵp o bobl ifanc a'u teuluoedd. Hoffwn ddiolch iddynt am ddangos urddas a phenderfyniad wrth ddod â'r troseddwr hwn o flaen ei well heddiw."

"Roedd Evans yn ddyn hunanol a pheryglus a wnaeth gam-drin ei sefyllfa o ymddiriedaeth i ecsbloetio a niweidio plant."

"Hoffwn hefyd ddiolch i dîm cyfreithiol yr erlyniad, y Llys a GEG am eu gwaith yn yr achos hwn, yn ogystal â'r Cadetiaid Awyr a'r ysgol sydd wedi cefnogi'r ymchwiliad hwn drwy'r holl achos."

"Os ydych chi'n amau bod rhywun yn cael ei gam-drin yn rhywiol, neu os ydych chi wedi profi cam-drin eich hun, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru. Byddwn yn cymryd eich hanes o ddifri ac yn eich cefnogi."

Mae Evans hefyd wedi derbyn gorchymyn atal niwed rhywiol sy'n para am gyfnod gyfnod amhenodol a rhaid iddo gofrestru gyda'r heddlu.

Cafodd hefyd ei wneud yn destun gorchmynion atal sy'n amddiffyn y dioddefwyr am gyfnod amhenodol.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

  • Diweddglo cerddorol yr Eisteddfod

    Cyngerdd a fwynhawyd gan dyrfa enfawr, brwydr epig rhwng corau meibion a pherfformiad ysblennydd gan acrobatiaid anabl a ddaeth â'r Eisteddfod Genedlaethol 2025 yn Wrecsam i ben nos Sadwrn.

  • Eisteddfod 2025 - y gair olaf

    Bydd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn dod i ben nos Sadwrn wedi rhoi llwyfan enfawr i'r iaith Gymraeg yn yr ardal a hwb sylweddol i'r economi lleol.

  • Gem gyntaf Wrecsam - ar sgrin fawr 'Steddfod

    Clywyd cymeradwyaeth uchel ar Faes yr Eisteddfod pan sgoriodd Wrecsam y gol gyntaf yng ngêm agoriadol o'r tymor Pencampwriaeth newydd.

  • A Oes Carbon? Uno dros Eisteddfod ddi-garbon

    Mae partneriaeth newydd rhwng M-SParc ac Eisteddfod Genedlaethol yn anelu at osod safon newydd o ran cynaliadwyedd mewn gwyliau diwylliannol mawr yng Nghymru.

  • Cadair Tudur

    Dyfarnwyd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam i Tudur Hallam am gerddi hynod bersonol yn ymwneud â'i brofiad o gael diagnosis canser.

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Brecwast MônFM gyda Kev Bach

    7:00am - 10:00am

    Bore da! Mae Kev Bach yn nôl i ddeffro Ynys Môn a Gwynedd!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'