
Mae pedoffil wedi cael ei garcharu am feithrin perthynas amhriodol â merch yn ei harddegau.
Pleidiodd Matthew Pritchard, o Gaergeiliog yn euog i pedwar trosedd o weithgaredd rhywiol efo plentyn ac un trosedd o gyfathrebu rhywiol efo plentyn.
Mi wnaeth Pritchard, oedd yn 18 ac 19 oed ar adeg y troseddau, anfon negeseuon i’r ferch ar y cyfryngau cymdeithasol pan oedd hi rhwng 13 ac 16 oed.
Mi ddechreuon nhw gyfarfod yn y cnawd, ac mi roddodd alcohol iddi hi cyn cael rhyw efo hi.
Yn ystod y cyfnod hwn, mi wnaeth o hefyd ei gorfodi i greu lluniau personol.
Yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mawrth, cafodd Pritchard, 24 oed, ei garcharu am bedair blynedd. Mi gafodd hefyd orchymyn atal niwed rhywiol, a gorchymyn atal am gyfnod amhenodol er mwyn gwarchod y dioddefwr.
Dyweddod Ditectif Gwnstabl Sarah Jones o Heddlu Gogledd Cymru: "Mi wnaeth Pritchard feithrin perthynas amhriodol a defnyddio merch ifanc fregus pan roedd ef ei hun yn oedolyn."
"Mae’r profiad hwn wedi cael effaith ddinistriol ar fywyd y dioddefwr."
"Mae hi wedi bod yn hynod o ddewr wrth riportio’r hyn ddigwyddodd iddi hi, a dwi’n gobeithio bydd y ddedfryd yn rhoi tawelwch meddwl iddi hi er mwyn symud ymlaen."
"Mi fuaswn i’n annog unrhyw blentyn sydd wedi dioddef cam-drin rhywiol ddod atom ni. Mi wnawn ni wrando, eich helpu chi a’ch diogelu chi, waeth pa mor ddiweddar neu bell yn ôl y digwyddodd y drosedd."