Mae dyn wedi cael ei garcharu ar ôl ymosod ar ei gyn-bartner yn ei chartref.
Plediodd Leon Thomas, 34 oed o Llan Ffestiniog, yn euog i ymosod gan achosi niwed corfforol a difrod troseddol yn dilyn aflonyddwch ym Mlaenau Ffestiniog yn oriau mân ddydd Llun.
Cafodd ei ddedfrydu yn y llys lai na 36 awr ar ôl ei arestio.
Mi ddechreuodd Thomas fod yn dreisgar ar ôl i’w gyn gymar ofyn iddo adael ei chartref. Mi achosodd ddifrod i’w heiddo cyn ei tharo dro ar ôl tro yn ei hwyneb.
Mi fedrodd hi ei gael o allan o'r tŷ, ond mi ddychwelodd ac mi geisiodd fynd i’r tŷ unwaith eto, drwy gicio ei drws ffrynt a’i drws cefn, gan achosi difrod pellach. Mi aeth swyddogion i’r cyfeiriad a dod o hyd i Thomas gerllaw.
Yn llys ynadon Caernarfon ddydd Mawrth, dedfrydwyd Thomas i 35 wythnos yn y carchar.
Dywedodd Ditectif Gwnstabl Annie Britton o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae Thomas wedi profi ei fod yn berygl i ferched, wedi iddo gyflawni troseddau cam-drin domestig o’r blaen."
"Mi ddylid canmol gweithrediadau dewr y dioddefwr wrth ei gael allan o’i thŷ. Dwi’n gobeithio ei bod hi’n cael tawelwch meddwl drwy’r camau cyflym a gymerwyd er mwyn sicrhau’r ddedfryd hon."
"’Da ni’n gwbl ymroddgar i warchod dioddefwyr cam-drin domestig a dod â throseddwyr o flaen eu gwell. ’Da ni’n annog unrhyw un sy’n profi cam-drin i gysylltu efo ni – mi wnawn ni wrando, eich helpu chi ac ymchwilio’n drwyadl."
Cafodd Thomas ei wahardd hefyd rhag mynd at ei ddioddefwr am dair blynedd o dan Orchymyn Gwarchod Cam-drin Domestig (DAPO).


Cyngor yn cefnogi'r ymgyrch Nid Fy Nghywilydd
'Newidiadau sylweddol' yn Ysgol Friars - arolygwyr
Carcharu dyn am cyfres o droseddau ym Mangor
Streicwyr Friction yn serennu mewn drama newydd
Atafaelu tybaco anghyfreithlon o siopau Môn