
Mae dyn o Fae Cemaes wedi cael ei garcharu am achosi difrod troseddol.
Chwistrellodd James Clements graffiti mewn gwahanol leoliadau ar draws Caergybi ym mis Gorffennaf cyn defnyddio bat criced i ddifrodi dau gar ym Mae Cemaes ar 9 Awst.
Yn Llys Ynadon Llandudno, plediodd Clements, 30 oed yn euog a chafodd ei garcharu am 12 wythnos
Dywedodd Rhingyll Becci Harrison o Heddlu Gogledd Cymru: "Hoffwn ddiolch i'r cyhoedd ac asiantaethau partner am eu cymorth a'u cefnogaeth yn dilyn y digwyddiadau hyn."
"Mae cael cefnogaeth y gymuned leol yn hanfodol i ni sicrhau'r dystiolaeth sydd ei hangen i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell."