
Mae Canolfan Empire Caergybi wedi ailagor yn swyddogol yn dilyn gwaith adnewyddu gwerth £1.3 miliwn.
Mae'r prosiect bellach wedi gweld y lle chwarae, sydd wedi'i leoli yn y ganolfan, yn datblygu i un o'r mwyaf yn ngogledd Cymru.
Argorwyd yr aeliad yn swyddogol gan Anna McMorrin AS, is-ysgrifenydd Seneddol Gwladol yn Swyddfa Cymru.
“Mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi’n uniongyrchol mewn cymunedau ledled Cymru er mwyn gwella cyfleusterau lleol, ysgogi twf a chreu swyddi", meddai yr AS.
“Mae’n wych gweld bod ein nawdd ar gyfer Canolfan Empire Caergybi eisoes yn denu mwy o ymwelwyr i ganol tref Caergybi, a byddwn yn parhau i adfywio ardaloedd lleol ar hyd a lled y wlad.”
Mae’r ganolfan bellach yn cynnwys ffrâm chwarae newydd sbon i ddenu mwy o ymwelwyr. Mae’r estyniad newydd yn y cefn yn cynnwys ystafell barti modern, cegin a chyfleusterau gwell - yn cynnwys ystafell fwydo ar gyfer babanod.
Mae ystafell synhwyraidd hefyd ar gael sy’n darparu gofod tawel a chynhwysol i unigolion neu grwpiau.
Fe all ymwelwyr hefyd fwynhau’r sinema ar ei newydd wedd. Mae’r gwelliannau’n cynnwys seddi newydd, system sain a sgrin fodern a décor cyfoes. Mae paneli solar wedi cael eu gosod yn ogystal i leihau costau ynni a gwneud yr adeilad yn fwy cynaliadwy.
Mae’r ganolfan ym meddiant Cyngor Tref Caergybi ac mae’n cael ei rhedeg gan y cyngor tref hefyd. Penododd y Cyngor Tref gwmni adeiladu lleol, OBR Construction, i wneud y gwaith.
Dywedodd y Cynghorydd Cadi Evanson, maer y dref: “Mae Canolfan Empire Caergybi eisoes yn atyniad poblogaidd iawn yn y dref. Mae’r galw yn dangos pwysigrwydd y cyfleuster hwn i’r gymuned."
"Ar ran Cyngor Tref Caergybi hoffwn ddiolch i’r contractwyr, penseiri a’r cyngor sir am eu gwaith rhagorol wrth gyflawni’r estyniad newydd."
“Rwyf yn hynod falch o’r cyngor tref am ei ymroddiad, ymrwymiad a’i weledigaeth i wireddu’r prosiect hwn gyda chymorth ariannol Llywodraeth y DU. Dyma fuddsoddiad gwirioneddol yn nyfodol ein tref, ac mae’n wych gweld bod y buddsoddiad eisoes yn dwyn ffrwyth.”
Mae'r gwaith wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, mewn partneriaeth â Chyngor Ynys Môn a Chyngor Tref Caergybi.
Llwyddodd y cyngor sir i ennill y nawdd a’i weinyddu fel rhan o’i raglen adfywio canol trefi. Bwriad y rhaglen yw adfywio asedau cymunedol, diwylliannol a threftadaeth allweddol a rhoi hwb i’r economi leol ar yr un pryd.
Yn ôl y cyngor, mae mwy nag erioed wedi ymweld a'r ganolfan sy'n cael ei ddisgrifio fel cyfleuster cymunedol allweddol a hwb mawr i ganol tref Caergybi.
Ychwanegodd y Cyngorhydd Gary Pritchard, arweinydd Cyngor Môn: "Mae’r buddsoddiad hwn yn enghraifft ragorol o’r modd y gall cydweithio sicrhau manteision gwirioneddol i gymunedau."
"Mae’r ganolfan eisoes yn boblogaidd iawn gyda theuluoedd lleol, busnesau ac ymwelwyr ac mae ei llwyddiant yn dangos ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n buddsoddi yn ein trefi.”