Mae dau ddyn wedi cael eu harestio yn dilyn dau gyrch cyffuriau yn ardal Caergybi.
Atafaelwyd swm sylweddol o cetamin a chocên gan swyddogion fore Gwener, yn ogystal â swm mawr o arian parod.
Cafodd dyn 22 oed a dyn 25 oed ei arestio ar amheuaeth o gyflenwi cyffuriau ac maent yn parhau yn y ddalfa tra bod ymholiadau'n cael eu gwneud.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, roedd y cyrchoedd yn rhan o'u gwaith i amharu ar gyflenwad cetamin yn lleol.
Dyweddod PC Andy Jones: "Rydym yn parhau i wrando ar wybodaeth a phryderon a riportiwyd i ni gan y gymuned leol ac rydym yn gweithredu ar y wybodaeth honno."
"Ni fyddwn yn goddef ymddygiad sy'n ecsbloetio trigolion bregus Ynys Môn er budd ariannol."
"Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am gyffuriau yn eu hardal gysylltu â'r heddlu neu roi gwybod am bryderon yn ddienw trwy Crimestoppers trwy ffonio 0800 555 111."


Treth cyngor Môn i godi 5.1%
Dyn o Fangor yn cyfaddef delio cyffuriau
Bangor: cau siop am werthu tybaco anghyfreithlon
Niwbwrch: ystâd newydd bron â'i chwblhau
Y Gân yw Cân i Gymru 2026