Bangor: ymgais newydd i adfywio'r Stryd Fawr

Friday, 17 October 2025 16:25

By Ystafell Newyddion MônFM

Geograph (habiloid)

Bydd £2.25 miliwn yn cael ei fuddsoddi er mwyn adfywio Stryd Fawr Bangor drwy ddenu busnesau newydd, annog ymwelwyr a darparu mwy o gartrefi lleol.

Mae Cyngor Gwynedd wedi sicrhau bron i £1 filiwn gan rhaglen Llywdoraeth Cymru i weithredu cynllun peilot mynd i’r afael â nifer yr adeiladau gwag yng nghanol y ddinas.

Mae Bangor wedi gweld cynydd yn y nifer of siopau gwag dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig ers y pandemig Covid.

Mae ansawdd nifer o'r adeiladau hefyd wedi dirywio gydag amser ac mae'r cyfuniad wedi arwain at bryder am edrychiad a theimlad y Stryd Fawr.

Mae'r cyngor sir eisoes wedi datblygu cofrestr o eiddo gwag ac wedi cysylltu'n uniongyrchol â'u perchnogion, sydd wedi adrodd fod diffyg cefnogaeth ariannol yn rwystr iddynt fedru ail-ddatblygu.

Gyda chyllid Trawsnewid Trefi bellach wedi'i sicrhau, gall y cyngor ddechrau cyd-weithio gyda'r perchnogion a ymgysylltodd gyda'r cynllun peilot i gefnogi prosiectau i ddatblygu eiddo.

Bydd grantiau o hyd at £200,000 ar gael i'r perchnogion hynny sy'n rhan o'r cynllun peilot – ac sydd wedi bod mewn sgyrsiau parhaol dros y misoedd diwethaf – er mwyn adnewyddu ac addasu eu hadeiladau a felly denu busnesau a thenantiaid newydd.

Dwyeddod y Cynghorydd Medwyn Hughes, aelod y cabinet dros yr economi a'r gymuned: "Mae eiddo gwag yn parhau i fod yn her fawr i'n trefi a'n cymunedau, ac nid yw hyn yn fwy amlwg nag yn unig ddinas Gwynedd a'i chanolfan isranbarthol bwysig."

"Mae'r fenter hon yn gam sylweddol ymlaen i fynd i'r afael â'r materion hyn drwy weithio'n agos â pherchnogion eiddo ac ailsefydlu sianeli cyfathrebu a allai fod wedi bod ar goll yn y gorffennol."

"Ein gobaith yw y bydd menter eiddo gwag Bangor nid yn unig yn chwarae rhan hanfodol yn adfywio Bangor, ond hefyd yn creu model y gellir ei efelychu ledled Gwynedd."

Gobaith y cynllun peilot yw annog mwy o ddefnydd cymysg o adeiladau'r Stryd Fawr – hynny yw helpu perchnogion adeiladau i'w ailddatblygu i fod yn gyfuniad o unedau masnachol fel siopau a chaffis ar y llawr gwaelod gyda fflatiau ar y lloriau uchaf.

Yn ôl y cyngor, bydd yn helpu i ddod a bwrlwm newydd i'r Stryd Fawr ac adfywio canol y ddinas yn y tymor hir. 

Dyweddod Jayne Bryant, ysgrifenydd dros dai a llywodraeth leol: "Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi Menter Eiddo Gwag Bangor."

"Menter fydd yn dod â buddion parhaol i bobl leol, busnesau ac i ymwelwyr – yn sicrhau adfywiad cynaliadwy o ein cymunedau, sydd ei hangen ac yn haeddu."

"Mae strategaeth adfywio Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau ledled Cymru, gan gynnwys ym Mangor, drwy ddod â rhagor o gartrefi gwag yn ôl i ddefnydd gweithredol ac adfywio ein canol trefi a dinasoedd."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Cordia

    5:00pm - 7:00pm

    Dechreuwch eich nos Sadwrn gyda cherddoriaeth a sgwrs gan ferched Cordia

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'