Mae trigolion ym Mangor yn cael eu hannog i amddiffyn eu cartrefi yn dilyn cynnydd mewn byrgleriaethau yn y ddinas.
'Da ni'n annog trigolion gymryd camau i warchod eu cartrefi nhw yn dilyn cynnydd yn nifer y byrgleriaethau sy'n cael eu hadrodd yn ardal Bangor.
Mae swyddogion yn cynghori perchnogion tai lleol i gymryd camau fel cloi drysau a ffenestri, cuddio allweddi ceir o'r llinell olwg a defnyddio goleuadau awyr agored neu synwyryddion symudiad i gael gwared ar fannau cuddio tywyll.
Mae Heddlu Gogledd Cymru hefyd yn cynghori trigolion i wneud i'w cartrefi edrych yn brysur ac ystyried dyfeisiau olrhain ar gyfer eitemau gwerthfawr.
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am fyrgleriaethau yn ardal Bangor neu rywle arall, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, neu yn ddienw drwy Crimestoppers ar 0800 555 111.


A499: dyn ifanc wedi marw mewn gwrthdrawiad
Trysorau Môn mewn arddangosfa newydd
Carcharu dyn o Fangor am gludo cocên
Aldi i greu 40 o swyddi ym Mhorthaethwy?
Y Bandana yn ailffurfio ar gyfer Eisteddfod 2026