
Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn roi mynediad i Archif Ddarlledu Cymru trwy gyfleuster newydd yn Llangefni.
Bydd y gornel clip newydd - un o 14 o gorneli trwy Gymru - yn cynnig mynediad cyhoeddus am ddim i gasgliad cyfoethog o hanes darlledu Cymru, gan gysylltu cymuned Ynys Môn â degawdau o leisiau, straeon ac eiliadau sydd wedi llunio Cymru fodern.
I ddathlu'r achlysur, bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn cynnal digwyddiad byw ar 11 Medi, gan anrhydeddu treftadaeth ddiwylliannol a darlledu Cymru.
Cyflwynir y digwyddiad gan y gantores a'r darlledwraig Elin Fflur, a fydd yn sgwrsio â'r darlledwr eiconig Hywel Gwynfryn, y gantores-gyfansoddwraig a darlledwraig Meinir Gwilym, a'r actor Huw Garmon, sy'n adnabyddus am ei rôl yn y ffilm Hedd Wyn a enwebwyd am Oscar.
Dechreuodd Hywel, wyneb a llais cyfarwydd iawn i lawer yng Nghymru, ei yrfa ddarlledu yn y 60au, a dywedodd am Archif Ddarlledu Cymru: "Mae diogelu hanes darlledu yng Nghymru yn hanfodol - mae'n adrodd hanes pwy ydan ni ac o ble rydyn ni wedi dod."
"Mae sicrhau fod yr archi ar gael i gymunedau ledled Cymru yn ffordd ystyrlon o ddathlu a rhannu ein hunaniaeth. Rwy'n falch o gael bod yn rhan fechan o'r jig-sô mawr a hynny yn fy nhref enedigol, Llangefni."
"Fel un sydd wedi defnyddio'r archif yn y Llyfrgell Genedlaethol. rwy'n herio unrhyw un i beidio â chael eu denu'n llwyr i ail ymweld a'r gorffennol unwaith y byddan nhw'n dechrau archwilio Archif Ddarlledu Cymru mewn Cornel Clipiau, a honno ar stepen eich drws."
Drwy gydol y digwyddiad, bydd Elin yn rhannu clipiau archif pob un o'i gwesteion, gan ddod â'u straeon yn fyw.
Bydd y digwyddiad cyhoeddus rhad ac am ddim yn digwydd yn Theatr Fach Llangefni, sy'n dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed eleni.
Mae'r cyflwynydd a'r holl westeion wedi perfformio ar lwyfan Theatr Fach yn gynnar yn eu gyrfaoedd, gan wneud y lleoliad yn arbennig o addas ar gyfer dathlu agor y gornel clip hefyd.
Bydd y digwyddiad byw yn cael ei recordio a'i wneud ar gael i'w wylio ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn fuan wedyn.
Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, prif weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru: "Mae Archif Ddarlledu Cymru yn bodoli i gadw a rhannu'r lleisiau a'r straeon sydd wedi llunio Cymru fodern."
"Mae lansio cornel clip yn Archifau Ynys Môn, Llangefni yn gam pwysig arall tuag at wneud ein treftadaeth ddarlledu genedlaethol o fewn cyrraedd i'n holl gymunedau yng Nghymru."
"Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru rôl hanfodol yn diogelu a rhoi mynediad i'r archif ddarlledu helaeth a phwysig hon i bobl Cymru."
"Rydym yn annog pawb i ymweld â chornel clip Llangefni, y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, a chorneli clip eraill ledled Cymru i ddarganfod y casgliad rhyfeddol hwn drosoch eich hunain."
Bydd prosiect Archif Ddarlledu Cymru yn rhoi mynediad i tua 400,000 o raglenni o hanes radio a theledu yng Nghymru.
Yn brosiect arloesol a gefnogir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru, mae'r Archif Ddarlledu yn cael ei chadw a'i rheoli gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â'r darlledwyr BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales ac S4C.
Yn y Gogledd, mae corneli clip yn Archifdy Gwynedd yng Nghaernarfon, Llyfrgell Llanrwst, Canolfan Ddiwylliant Conwy ac Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn Rhuthun, gyda chyfleuster arall i agor yn Llyfrgell Wrecsam yn fuan.
Ers mis Mai, mae'r archif wedi bod yn darparu miloedd o oriau o raglenni o archif TWW a HTV Cymru ar ei gwefan.
Ychwanegodd Kelly Parry, uwch rheolwr Gwasanaeth Amgueddfa ac Oriel: "Fel ceidwaid hanes lleol cyfoethog Ynys Môn, rydym yn falch o helpu i gadw a rhannu stori ehangach Cymru drwy Archif Ddarlledu Cymru."
"Mae'n gwbl briodol bod y Cornel Clip hwn yn dod o hyd i'w gartref yn Archifau Ynys Môn, lle sydd eisoes wedi'i gysegru i ddiogelu treftadaeth unigryw ein hynys."
"Mae cysylltu ein cymuned â degawdau o hanes darlledu cenedlaethol nid yn unig yn cyfoethogi ein dealltwriaeth o daith ddiwylliannol Cymru, ond hefyd yn dod â bywyd newydd i'r lleisiau a'r straeon sydd wedi llunio Ynys Môn a'r genedl gyfan."
"Edrychwn ymlaen at groesawu'r gymuned leol ac ymwelwyr fel ei gilydd i archwilio, darganfod a mwynhau'r casgliad pwysig hwn."