
Mae ditectifs sy'n chwilio am ddynes 22 oed sydd ar goll yn credu bod nifer o bobl efo gwybodaeth sy’n hanfodol i’w ymholiadau.
Mi welwyd Gwenno Ephariam ddiwethaf ar nos Lun, 28 Gorffennaf yn ardal Bangor Uchaf.
Mae fideo TCC wedi’i adolygu gan swyddogion yn ymddangos i’w dangos yn cerdded ar ei phen ei hun o Bangor i ardal Porthaethwy rhwng 10:20pm a 11:10pm.
Dywedodd Brif Arolygydd Stephen Pawson o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae chwiliadau eang yn parhau yn ardal y Fenai, a ‘da ni’n parhau i gynorthwyo teulu Gwenno yn ystod cyfnod hynod o anodd."
"Erbyn dadansoddi’r fideo TCC, ‘da ni’n hyderus bod Gwenno wedi cyrraedd Pont y Borth toc cyn 11:10pm."
"Mae’r fideo hefyd yn dangos merch yn cerdded ar ochr arall y bont ar y pryd. ‘Da ni’n apelio i’r unigolyn yma i ddod atom a helpu efo’r ymchwiliad."
"Da ni hefyd yn awyddus i siarad efo seiclwr a gyrwyr tri char, a welwyd yn teithio ar draws y bont o gwmpas yr un pryd."
"Mae’r cerbydau hyn yn cynnwys Audi TT arian, Skoda Octavia du, a BMW 116 llwyd."
Roedd Gwenno yn gwisgo yn gwisgo trowsus loncian llwyd, hwdi llwyd a trainers du.
Mae hofrennydd Gwylwyr y Glannau yng Nghaernarfon wedi bod yn rhan o'r chwilio ers bore Mawrth diwethaf, ynghyd â chriwiau RNLI o Fiwmares a Moelfre a thimau gwylwyr y glannau symudol o Fangor, Llandwrog a Phenmon.
Os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod iTrace 51505.