Mae ap newydd wedi'i lansio'n arbennig ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu yng Ngwynedd.
Bydd ap ConnectMi yn cynnig ffordd symlach a fwy hygyrch i oedolion ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol gael mynediad at wybodaeth a chefnogaeth hanfodol.
Mae'r gwasanaeth wedi cael ei ddatblygu gan Gyngor Gwynedd gyda chyllid gan Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd a chefnogaeth arbenigol gan cwmni. Heretothere.
Bydd ap ConnectMi yn dod a gwybodaeth a chefnogaeth gan wasanaeth Llwybrau Llesiant - yn ogystal a gwasanaethau allanol - at ei gilydd mewn un lle i wneud bywyd bob dydd yn symlach i ddefnyddwyr gwasanaeth.
Dywedodd un o ddefnyddwyr y gwasanaeth: "Dw i'n hoffi'r ap, dw i'n edrych arna fo bob nos Sul i weld beth sydd ar wythnos yma, mae o'n hawdd i ddefnyddio ac yn helpu fi."
Pwrpas prosiect Llwybrau Llesiant gan wasanaeth anabledd dysgu Cyngor Gwynedd yw i ddatblygu potensial oedolion gydag anableddau. Bydd yr ap yn cefnogi hyn gan wneud gwybodaeth yn glir, cyson ac yn hawdd ei chyrraedd ac felly yn helpu i hyrwyddo annibyniaeth y defnyddiwr.
Mae rhai o nodweddion yr ap yn cynnwys:
- Calendr byw o ddigwyddiadau ar draws Gwynedd i oedolion ag anableddau dysgu.
- Hysbysiadau a negeseuon atgoffa uniongyrchol i ffôn y defnyddiwr.
- Dolenni cyswllt uniongyrchol â thîm Llwybrau Llesiant .Gall defnyddwyr neu deuluoedd cysylltu i ofyn cwestiynau, gofyn am gymorth neu gadarnhau manylion heb orfod chwilio am rifau neu gyfeiriadau.
- System adborth syml ac ar unwaith, gan alluogi defnyddwyr i rannu eu profiadau ar ôl mynychu gweithgareddau neu ddigwyddiadau.
Ychwanegodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, aelod y cabinet dros oedolion, iechyd a llesiant: "Rwyf yn falch iawn o weld lansiad ap fydd yn adnodd pwysig ar gyfer Oedolion ag Anabledd dysgu eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol."
"Ar hyn o bryd mae gwybodaeth am amserlenni, newidiadau a chyfleoedd yn aml yn cael ei rhannu mewn gwahanol leoedd. Gall hyn arwain at gamddealltwriaeth, straen, a theimlad o golli allan."
"Mae'r ap yn dod â'r cyfan at ei gilydd mewn un lle syml, gan sicrhau bod pawb - defnyddwyr, teuluoedd a staff - yn cael yr un wybodaeth ar yr un pryd."
"Rwyf yn annog defnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol i lawrlwytho'r ap gan fanteisio ar yr adnodd newydd yma."
Gellir lawrlwytho ap ConnectMi yn rhad ac am ddim ar unrhyw ddyfais glyfar gan ddefnyddio'r côd 82557.


Wylfa SMR: gweinidogion yn targedu'r buddion mwyaf
Parth gwaharddedig Penrhosfeilw yn ddychwelyd
Cyllid ynni ar gyfer clybiau chwaraeon
Da byw wedi'u dwyn o gae ym Marianglas
Dau ddyn wedi marw ar yr Wyddfa