Amlwch: carcharu dyn am gyflenwi cocên

Wednesday, 18 March 2026 18:37

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae deliwr cyffuriau a gyflenwodd gocên yn ardal Amlwch wedi cael ei garcharu am dair blynedd.

Mi gafodd Christopher McGrath o Gemaes ei arestio ym mis Rhagfyr 2025, yn dilyn ymchwiliad ar y cyd rhwng ditectifs yng Ngogledd Cymru a Glannau Mersi, wneath ganolwbyntio ar ymgyrch cyflenwi cyffuriau.

Mi atafaelwyd ei ffôn gan swyddogion, oedd yn cynnwys negeseuon swmp yn hysbysebu cocên rhwng mis Gorffennaf a mis Rhagfyr 2025.

Yn Llys y Goron Caernarfon, pleidiodd McGrath, 44 oed, yn euog o fod yn rhan o gyflenwi cyffuriau Dosbarth A.

Mi dderbyniodd orchymyn ymddygiad troseddol sy’n para pum mlynedd.

Dywedodd Rhingyll Dylan Thomas o’r tîm plismona cymdogaethau: “Mae gwerthu cyffuriau yn felltith ar ein cymunedau lleol ni, ac mae’n effeithio’n uniongyrchol ar y bobl sy’n byw a gweithio yn yr ardal."

"Dydy troseddwyr sy’n ymwneud â throseddau trefnedig yn malio dim am neb heblaw eu hunain, ac mi wnawn nhw achosi niwed trychinebus i bobl fregus er eu helw ariannol eu hunain."

"Mi wnaiff ein tîm ni barhau i wneud Ynys Môn yn lle anghyfeillgar i’r rhai sy’n ymwneud â throseddoldeb trefnedig, a dod â throseddwyr o flaen eu gwell."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Steffan Huw

    2:00pm - 4:00pm

    Join Steffan for your weekday afternoon Soundtrack!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'