Y tro olaf? Dafydd Iwan ar Llwyfan y Maes

Monday, 4 August 2025 12:20

By Ystafell Newyddion

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Wedi canu ym mhob Eisteddfod ers chwe deg mlynedd mae'r canwr gwerin poblogaidd Dafydd Iwan wedi perfformio ar Lwyfan y Maes am y tro olaf.

Camodd Dafydd a'i fand talentog i'r llwyfan brynhawn Sul gyda rhai miloedd o fobl yn disgwyl iddo ganu rhai o'i hoff ganeuon.

Dywedodd: "Mae'n rhaid tynnu'r llinell yn rhywle, ac rwy'n edrych ymlaen i fwynhau sawl 'Steddfod eto o'r seddau cefn!"

Ond pwysleisiodd Dafydd na fydd yn rhoi'r gorau i ganu'n gyfangwbl!

"Rwyn gwybod ei fod yn dipyn o jôc fy mod i am rhoi gorau i ganu. Dwi wedi bod yn trio ymddeol ers blynyddoedd. Ond rhoi'r gorau i ganu'r gyda'r band ydw i.”

"Peidiwch a cam ddeall, rwyn mwynhau canu gyda'r band. Rydwi'n cael hwyl rhyfeddol yn canu gyda nhw tu ol imi ond teimlais ei bod yn briodol yn awr rhoi gorau i'r nosweithiau mawr ond mae'n dechrau mynd yn fwrn, y nosweithiau hwyr a'r holl drefniadau i gael bawb ynghyd felly ar ôl fis Awst canu ar ben fy hun i gyfeiliant y gitar, rhyw fath of sgwrs a chân, fyddai'n wneud," meddai.

Roedd Dafydd yn benderfynnol o wneud yn siwr fod y perfformiad olaf ar Lwyfan y Brifwyl yn un cofiadwy.  

"Rwyf wedi mwynhau perfformio ar Lwyfan y Maes ac mae gennyf atogfion hapus iawn pan ddaeth dorf enfawr i'r Maes yn Nhregaron.”

”Roedd yr Eisteddfod gyntaf ar ôl pandemig y coronafeirws a'r cyntaf ar ôl i Gymru frwydro drwodd i rowndiau terfynol Cwpan y Byd. Roedd nifer fawr o fobl ifanc yn y gynulleidfa ac roeddynt yn gwybod y geiriau i'm caneuon.”

"Roedd yn achlysur arbennig iawn sy'n aros yn fyw yn y cof," meddai Dafydd.

Wrth hel atgofion am Eisteddfodau'r gorffennol dywedodd Dafydd mae yr un cyntaf iddo berfformio ynddi oedd Eisteddfod Genedlaethol y Drenewydd yn 1965.

"Roedd honno'n Eisteddfod gofiadwy. Am ryw reswm roeddwn yn aros mewn ysgol ym Machynlleth.”

”Roedd gwlau cynfas wedi eu gosod mewn dosbarthiadau ac roedd pobl yn cysgu yn yr ystafelloedd. Ymhlith y rhai yno oedd Waldo Williams ac Eirwyn Pontshân.”

"Perfformiadau anffuriol ac answyddogol oedd y rhai yn y Drenewydd. Canu ar ben fy hun i gyfeilant gitar yn unig o amgylch Maes yr Eisteddfod. Rhywbeth ddigon tebyg fu hi am rai blynyddoedd.”

"Y patrwm yn y Pafiliwn bryd hynny oedd cyngerdd clasurol wedi i'r cystadlu ddod i ben am y diwrnod. Gwelais gyfle, gyda eraill, i drefnu rhywbeth mwy arbrofol a defnyddio'r Pafiliwn i gynnal nosweithiau llawen a chymanfeydd canu gwerin ar ol y cyngerdd.”

"Yn Eisteddfod Rhydaman yn 1970 fe drefnwyd rhywbeth ychydig yn wahanol. Peintio'r Byd yn Wyrdd oedd teitl sioe o ganeuon a rhyw fath o stori ynddynt a hynny'n hwyr yn y Pafiliwn.”

"Roedd na broblemau yn sicr gyda'r Pafiliwn yn oer ond gan fod y peth yn newydd roedd y lle'n llawn a chawsom llawer o hwyl," meddai.

Ar ddechrau'r 70au roedd Cymdeithas yr Iaith yn trefnu nosweithiau cerddorol i fobl ifanc a chymerodd Dafydd ran yn nifer o'r rhain.

Un o'r enwocaf o'r nosweithiau hyn oedd Tafodau Tan ym Mhafiliwn Corwen yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Rhuthun yn 1973.

Recordwyd y noson honno gan Gwmni Recordiau Sain. Mae pedwar o ganeuon Dafydd ar y record -  y gan werin Mi Welais ac yn ddiweddglo i'r noson, Y Wên Na Phyla Amser, Pam Fod Eira Yn Wyn ac yr anthemig I'r Gad.

Ers hynny mae Dafydd wedi ysgrifennu llawer o faledi anthemig a llawer o ganeuon dychanol gydag ymyl wleidyddol.

Ac er na fydd Dafydd a'r band yn perfformio ar Lwyfan y Maes y flwyddyn nesaf bydd ei gerddoriaeth Yma O Hyd!

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Eisteddfod

  • Diweddglo cerddorol yr Eisteddfod

    Cyngerdd a fwynhawyd gan dyrfa enfawr, brwydr epig rhwng corau meibion a pherfformiad ysblennydd gan acrobatiaid anabl a ddaeth â'r Eisteddfod Genedlaethol 2025 yn Wrecsam i ben nos Sadwrn.

  • Eisteddfod 2025 - y gair olaf

    Bydd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn dod i ben nos Sadwrn wedi rhoi llwyfan enfawr i'r iaith Gymraeg yn yr ardal a hwb sylweddol i'r economi lleol.

  • Gem gyntaf Wrecsam - ar sgrin fawr 'Steddfod

    Clywyd cymeradwyaeth uchel ar Faes yr Eisteddfod pan sgoriodd Wrecsam y gol gyntaf yng ngêm agoriadol o'r tymor Pencampwriaeth newydd.

  • A Oes Carbon? Uno dros Eisteddfod ddi-garbon

    Mae partneriaeth newydd rhwng M-SParc ac Eisteddfod Genedlaethol yn anelu at osod safon newydd o ran cynaliadwyedd mewn gwyliau diwylliannol mawr yng Nghymru.

  • Cadair Tudur

    Dyfarnwyd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam i Tudur Hallam am gerddi hynod bersonol yn ymwneud â'i brofiad o gael diagnosis canser.

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Sioe Môn ar MonFM

    4:00pm - 5:00pm

    Mae criw MônFM yn crwydo o gwmpas Sioe Môn! Gwrandewch ar eich radio, ar ap MônFM neu drwy eich Seinydd Clyfar

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'